Cywydd i Dduw
1 Y drindod heb dylodi
2 a wnaeth nef a byd i ni
3 Da fu'r Tad yn anad neb
4 roi i Anna ddiwair wyneb
5 Da fu Anna dwf vniawn
6 ddwyn Mair forwyn ddinam iawn
7 Da fu Fair ddiwair eiriawl
8 ddwyn duw i ddiwyno diawl
9 Da fu dduw Ior ddioer oroen
10 â'i groes ddwyn pum oes o'u poen
11 Da y gwnel Mab Mair air addef
12 ein dwyn oll pob dyn i nef
dd ap Gwilym